Mae mam i ddau o blant wedi marw ar ôl iddi gael ei saethu mewn tŷ yn Barham yn Suffolk ddydd Sul (Mai 3).

Dywed Heddlu Suffolk bod dyn 51 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o’i llofruddiaeth ac yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Bu farw’r ddynes, sydd wedi cael ei henwi’n lleol fel Silke Hartshorne-Jones, yn yr ysbyty ddydd Sul. Roedd hi’n fam i efeilliaid wyth oed.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ yn Barham ger Ipswich toc wedi 4.45yb fore Sul a chafodd y ddynes, oedd yn ei 40au, ei chludo i’r ysbyty lle bu farw’n fuan wedyn.

Roedd Silke Hartshorne-Jones yn rhannu tŷ fferm yn y pentre gyda’i gwr Peter Hartshorne-Jones.

Mae’n debyg ei bod hi’n gyfreithwraig yn Llundain.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.