Bydd busnesau bach yng ngwledydd Prydain yn gallu gwneud cais am fenthyciadau hyd at £50,000 o heddiw (Mai 4) ymlaen, gyda’r Llywodraeth yn dweud fod yr arian yn eu cyrraedd “o fewn dyddiau”.

Gall perchnogion busnesau bach wneud cais i fenthycwyr drwy lenwi ffurflen ar-lein sydd â saith cwestiwn.

Mae’r benthyciadau ar gael drwy rwydwaith o fenthycwyr, gan gynnwys y pum banc mwyaf.

Mae’r Llywodraeth wedi cytuno gyda’r benthycwyr y bydd llog o 2.5% yn cael ei godi ar y benthyciadau a gall busnesau sydd eisoes wedi cael benthyciad o £50,000 neu lai newid drosodd i’r cynllun hwn.

Dyma’r cynllun diweddaraf mewn cyfres o fesurau mae’r Canghellor Rishi Sunak wedi eu cyflwyno, gyda £7.5 biliwn eisoes wedi ei roi mewn grantiau busnes.

“Bydd busnesau bach yn hanfodol wrth greu swyddi a sicrhau twf economaidd wrth i ni adfer o’r pandemig coronafeirws,” meddai’r Canghellor.

“Bydd y cynllun yn gwneud yn siŵr eu bod yn derbyn y cyllid sydd ei angen arnynt, gan eu helpu i adfer a chreu swyddi.”

Tra bod yr Ysgrifennydd Busnes wedi dweud: “Rydym yn cefnogi busnesau bach, sef asgwrn cefn ein cymunedau, gyda’r gefnogaeth maen nhw eu hangen i oroesi.”