Fe fydd y Blaid Lafur yn mabwysiadu polisi mewnfudo “teg a chyfiawn”, yn ôl Nick Thomas-Symonds, aelod seneddol Torfaen a llefarydd materion cartre’r blaid yn San Steffan.

Fe fu’n siarad â rhaglen Sophy Ridge ar Sky News heddiw (dydd Sul, Mai 3), lle gwrthododd gadarnhau safbwynt y blaid ar hawl pobol i symud yn rhydd yn yr Undeb Ewropeaidd.

“Dw i’n credu mai’r hyn fyddwn ni’n ei wneud dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod… wrth amlinellu ein polisi mewnfudo yn yr etholiad cyffredinol nesaf yw gwrando ar bryderon pobol,” meddai.

“Tra byddwn ni, wrth gwrs, yn amlinellu hynny maes o law, gallaf amlinellu rhai egwyddorion eang a dw i’n credu, yn y lle cyntaf, fod hawliau ynghylch byw, gweithio, astudio mewn gwledydd eraill yn bwysg iawn, maen nhw’n rhan o fod yn rhyngwladol sy’n rhan o wead Llafur.

“Dw i’n credu y bydd tegwch hefyd mor, mor bwysig.

“Fyddwn ni fyth yn trin pobol fel ystadegau yn ein system mewnfudo, byddwn ni bob amser yn eu trin nhw fel pobol.

“Mae cyfiawnder yn bwysig hefyd, a dyw e ddim yn rhyw egwyddor haniaethol.

“Rydyn ni wedi gweld o ran sgandal Windrush beth sy’n digwydd wrth golli golwg ar hynny yn ein system mewnfudo.”

Yr hawl i symud yn rhydd

Gwrthododd Nick Thomas-Symonds am yr ail waith i gadarnhau safbwynt ei blaid ar yr hawl i symud yn rhydd.

“Byddwn ni’n cyflwyno achos positif tros fewnfudo a’r buddiannau mawr sydd i fewnfudo i’n gwlad,” meddai.

“Yn gyntaf, rydyn ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd a bydd y cyfnod trosglwyddo wedi dod i ben erbyn i ni gyrraedd yr etholiad cyffredinol nesaf.

“Y llywodraeth hon fydd wedi trafod y cytundeb newydd hwnnw gyda’r Undeb Ewropeaidd.

“Rydyn ni hefyd yn mynd trwy’r argyfwng coronafeirws lle mae rhannau helaeth o’r byd dan warchae, allwch chi ddim hyd yn oed teithio o un rhan o’r byd i’r llall.

“Felly byddwn ni, wrth gwrs, yn ffurfio’n polisi mewnfudo o amgylch y digwyddiadau a’r newidiadau hynny.”