Wilfred Lawrie Nicholas Johnson yw enw babi newydd Boris Johnson a’i bartner Carrie Symonds.

Mae’r enwau’n deyrnged i’w teidiau ac i staff y Gwasanaeth Iechyd fu’n gofalu am brif weinidog Prydain wrth iddo gael triniaeth am y coronafeirws mewn ysbyty yn Llundain yn ddiweddar.

Mae’r fam newydd wedi canmol ysbyty Coleg Prifysgol Llundain am eu gofal, ar ôl i’r tri ddychwelyd i Downing Street.

Egluro’r enwau

Wrth egluro pam eu bod nhw wedi rhoi’r enw Wilfred Lawrie Nicholas ar y bachgen gafodd ei eni ddydd Mercher (Ebrill 29), dywed Carrie Symonds mai enw taid ei phartner oedd Wilfred.

Lawrie oedd enw ei thaid hithau.

Mae’r enw Nicholas yn deyrnged i Dr Nick Price a Dr Nick Hart, dau feddyg oedd wedi bod yn gofalu am Boris Johnson fis diwethaf.

Mae disgwyl i Boris Johnson gymryd cyfnod tadolaeth yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac mae disgwyl i’r teulu aros yn Downing Street am y tro, ynghyd â’r ci Dilyn, oedd wedi symud atyn nhw o ganolfan achub cŵn yng Nghymru.

Dyma bumed plentyn Boris Johnson, yn swyddogol, ond mae lle i gredu bod ganddo fe ragor hefyd.