Mae dau o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio gweithiwr iechyd 24 oed yn nwyrain Llundain.

Cafodd David Gomoh ei drywanu i farwolaeth ger ei gartref yn ardal Newham ar Ebrill 26, ddyddiau’n unig ar ôl colli ei dad i’r coronafeirws, a dyddiau’n unig cyn ei angladd.

Cafodd dyn 19 oed ei arestio yn Stratford ddoe (dydd Gwener, Mai 1), tra bod llanc 17 oed wedi’i arestio fore heddiw (dydd Sadwrn, Mai 2) yn ardal Telford yn Sir Amwythig.

Mae’r ddau yn cael eu holi yn y ddalfa.

Mae mam David Gomoh hefyd yn nyrs.