Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu rhoi hwb i’w hymgyrch i ffeindio gweithwyr Prydeinig i bigo ffrwythau a llysiau yn ystod y lockdown.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Yr Arglwydd Gardiner, fod gan ffermydd ddigon o weithwyr tymhorol ar hyn o bryd.
Ond mae’n disgwyl i’r ymgyrch “gynyddu” fis nesaf er mwyn gwneud i fyny am y prinder gweithwyr fydd yn dod o dramor.
Mewn sesiwn rithiwr, dywedodd yr Arglwydd Gardiner ei fod yn hyderus y bydd pobl Prydain yn cynnig eu gwasanaeth i bigo ffrwythau a llysiau.
Yn y cyfamser, mae gweinidogion wedi lansio ymgyrch Pick For Britain er mwyn annog gweithwyr Prydeinig i helpu ffermwyr.
Ond dywed yr aelod annibynol Baroness Boycott fod y lefel cyhoeddusrwydd yn “hynod isel” gan nad yw llawer o bobl yn gwybod amdano.