Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Boris Johnson gymryd cyfnod tadolaeth yn “hwyrach yn y flwyddyn” meddai llefarydd ar ran Stryd Downing.

Yn sgil genedigaeth ei fab, cafodd cwestiynau eu codi ynghylch a fyddai’r Prif Weinidog yn cymryd cyfnod tadolaeth, a hynny yn ystod argyfwng y coronaferiws.

Rhoddodd partner Boris Johnson, Carrie Symonds, enedigaeth mewn ysbyty yn Llundain ddydd Mercher (Ebrill 29), gyda llefarydd ar ran y cwpl yn dweud fod y fam a’r babi yn holliach.

Mae’n debyg fod Boris Johnson yn bresennol drwy gydol yr enedigaeth, gyda’r newyddion y byddai’n absennol o Gwestiynau’r Prif Weinidog yn dod ychydig cyn i’r enedigaeth gael ei gyhoeddi.

“Rwyf yn disgwyl i’r Prif Weinidog gymryd cyfnod tadolaeth yn hwyrach yn y flwyddyn, yn hytrach na nawr,” meddai llefarydd wrth sesiwn friffio yn San Steffan.