Mae’r Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab wedi dweud bod lledaeniad y coronafeirws yn “sialens mae’n rhaid i ni fynd i’r afael ag e” wrth ddirprwyo i’r Prif Weinidog, Boris Johnson, yn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mercher, Ebrill 29).

Gofynnodd arweinydd y blaid Lafur, Keir Starmer, pam fod marwolaethau mewn cartrefi gofal yn dal i godi.

“Does dim amheuaeth a wnâi ddim cilio i ffwrdd o ddweud bod hyn yn sialens” meddai Raab.

Daw hyn ar ôl i ffigyrau gael ei rhyddhau ddoe (Ebrill 28) yn dweud fod 3,096 o bobl wedi marw mewn cartrefi gofal yng Nghymru a Lloegr.

Dywed Syr Keir Starmer fod y nifer o farwolaethau yn sgil y coronafeirws yn y Deyrnas Unedig yn “hunllefus.”

“Chwe wythnos yn ôl ar Fawrth 17, dywedodd prif ymgynghorydd gwyddonol y Llywodraeth (Syr Patrick Vallance) fod y Llywodraeth yn gobeithio cadw nifer y marwolaethau o’r coronafeirws yn is na 20,000,” meddai.

“Ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog yn ei araith fer bod sawl un edrych ar lwyddiannau’r Deyrnas Unedig.

“Ond ydi’r Prif Ysgrifennydd yn cytuno â mi fod y ffigyrau diweddaraf yn bell o fod yn llwyddiant, ond yn hytrach yn wirioneddol hunllefus?”

Galw am estyniad Brexit

Galwodd arweinydd yr SNP am estyniad Brexit yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog.

“A wnaiff yr Ysgrifennydd Gwladol dderbyn synnwyr cyffredin ac adnabod yr angen am estyniad Brexit?” meddai.

“Dangoswch ychydig o arweinyddiaeth, gwrthwynebwch eithafwyr y blaid Geidwadol, ymestynnwch y cyfnod trosglwyddo Brexit a gadewch i ni fwrw ymlaen gyda’r gwaith o daclo’r argyfwng iechyd gyda’n gilydd.”

Dywed Dominic Raab nad yw safiad y Llywodraeth wedi newid, gyda’r cyfnod trosglwyddo’n dod i ben ar Ragfyr 31.

“Os ydi o eisiau osgoi rhagor o ansicrwydd y peth iawn i ni wneud ydi sicrhau cytundeb erbyn diwedd y flwyddyn,” meddai.