Fe fydd busnesau bach yn gallu sicrhau benthyciad gwerth hyd at £50,000 gyda’r Llywodraeth yn gwarantu 100% o’r risg, fel rhan o’r cynllun diweddara i helpu busnesau i oroesi’r argyfwng coronafeirws.

Dywedodd y Canghellor  Rishi Sunak y byddai’r Llywodraeth yn talu’r llog ar y benthyciadau am y 12 mis cyntaf.

Mae wedi cydnabod bod rhai busnesau bach yn dioddef oherwydd eu bod nhw’n methu cael mynediad at gredyd, ac mae Rishi Sunak yn gobeithio, drwy warantu’r benthyciad, y bydd benthycwyr yn caniatáu i gwmnïau fenthyg yr arian sydd ei angen.

Fe fydd y benthyciadau ar gael o 9yb ddydd Llun nesaf. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi clustnodi £15 biliwn o gymorth mewn ymateb i’r effaith ar yr economi yn sgil y coronafeirws ac mae Rishi Sunak wedi rhybuddio bod cyfnod heriol o’n blaenau.

“Mae’r rhain yn amseroedd caled. Mae rhagor i ddod,” meddai.

Mae’r CBI wedi croesawu’r benthyciadau gan ddweud y byddan nhw’n “drawsnewidiol”.