Mae Boris Johnson wedi dychwelyd i Downing Street heddiw (dydd Llun, Ebrill 27), er mwyn ail-gydio yn yr awenau wrth i’r Llywodraeth geisio mynd i’r afael a’r coronafeirws.

Fe fydd y Prif Weinidog yn dychwelyd yn ôl i’w waith dair wythnos ers iddo gael ei gludo i’r ysbyty ar ôl cael ei heintio gyda’r firws.

Mae disgwyl iddo gadeirio cyfarfod boreol sy’n trafod sut ymateb y Llywodraeth i Covid-19 cyn dechrau cyfres o gyfarfodydd gydag uwch weinidogion a swyddogion.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab, sydd wedi bod yn dirprwyo ar ran Boris Johnson yn ei absenoldeb, ei fod yn barod i ddychwelyd i’r gwaith ar ôl bod yn gwella yn ei gartref Chequers.

Wrth iddo ddychwelyd i Downing Street mae Boris Johnson dan bwysau gan rai aelodau Ceidwadol i ddechrau llacio’r cyfyngiadau yn sgil pryderon am yr effaith ar yr economi.

Ond mae gwyddonwyr sy’n cynghori’r Llywodraeth wedi rhybuddio bod unrhyw lacio ar y cyfyngiadau yn peri risg o gynyddu nifer yr achosion o Covid-19, wrth i nifer y cleifion sy’n mynd i’r ysbyty gyda’r firws ddechrau gostwng.

Mae’r arweinydd Llafur Syr Keir Starmer, sydd o blaid y cyfyngiadau, wedi galw eto ar y Llywodraeth i gyhoeddi strategaeth ar gyfer llacio’r rheolau.

Fe fydd y cyfyngiadau yn cael eu hadolygu unwaith eto ar Fai 7.