Mae cadeirydd cenedlaethol Ffederasiwn Plismyn Cymru a Lloegr wedi galw am garcharu pobl sy’n tagu neu boeri ar blismyn yn fwriadol.

Dywed John Apter ei fod wedi ei “syfrdanu” wrth weld dedfrydau “trugarog” i rai sy’n euog o’r fath droseddau, ond ddim yn mynd i’r carchar.

Mae yn dweud ei fod yn ymwybodol o ddwsinau o ymosodiadau ar heddweision lle mae’r coronafeirws wedi cael ei ddefnyddio fel “arf.”

Croesawodd ddedfrydau o garchar i droseddwyr megis Charlene Merrifield a gafodd ei dedfrydu i 21 wythnos ar ôl tagu ar heddweision wrth gael ei harestio yn Hebburn, ger Newcastle.

“Rydym yn dal i weld anghysondeb o gwmpas y wlad, a phan dw i’n gweld dedfrydau trugarog yn cael eu rhoi i bobl rwyf wedi fy syfrdanu,” meddai John Apter.

“Troseddwyr treisgar”

Daw ei sylwadau ar ôl i Trevor Dangerfield, 39, osgoi carchar am dagu yn wyneb heddwas a bygwth ei fod am heintio ei deulu gyda’r coronafeirws.

Wedi iddo bledio’n euog i ymosod ar weithiwr hanfodol, cafodd ei ddedfrydu i 18 wythnos o garchar wedi ei ohirio am flwyddyn, a’i orchymyn i dalu £100 o iawndal yn ogystal â £156 i’r dioddefwr.

“Mae’r rhain yn droseddwyr treisgar, maen nhw’n beryglus, dylai eu bod yn treulio amser yn y carchar,” meddai John Apter.

“Rwy’n erfyn ar lysoedd, barnwyr ac ynadon i gefnogi’r gwasanaethau argyfwng.

“Mae’r troseddau a’r canllawiau dedfrydu yno, defnyddiwch y pŵer sydd gennych chi.”