Ni fydd llacio mesurau coronafeirws yn golygu dychwelyd ar unwaith i sut yr oedd pethau cyn y pandemig.
Dyna yw neges adroddiad sydd newydd gael ei gyhoeddi gan Lywodraeth yr Alban sy’n amlinellu’r camau nesaf ar gyfer delio â’r feirws.
Mae’r adroddiad yn pwysleisio y bydd y mesurau’n cael eu llacio’n “raddol a gofalus” a bod angen i bobl “ffeindio ffordd i fyw gyda’r feirws.”
Casgliad yr adroddiad yw nad nawr yw’r amser iawn i lacio’r mesurau. A hyd yn oed ar ôl i’r mesurau’n gael eu codi’n llwyr, gallant gael eu hailosod, o bosib yn fyr rybudd, os bydd achosion coronafeirws yn cynyddu’n gyflym.
“Wrth i ni lacio’r cyfyngiadau, y risg yw bod Covid-19 yn dychwelyd yn rhemp eto,” meddai’r Prif Weinidog Nicola Sturgeon wrth lansio’r adroddiad heddiw.
“Felly dyw dychwelyd i fywyd arferol ddim yn debygol yn y dyfodol agos ac mae’n bwysig iawn fy mod i’n glir ynghylch hynny.”
Mae’r adroddiad yn dilyn addewid gan Nicola Sturgeon i fod yn agored a thryloyw gyda’r cyhoedd ynglyn â gweithredoedd y Llywodraeth yn ystod yr argyfwng.