Mae Llywodraeth Prydain dan y lach am ymateb mor araf ar ddechrau ymlediad y coronafeirws.

Fe ddaw ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod Boris Johnson, prif weinidog Prydain, heb fod mewn pump o’r cyfarfodydd Cobra gwreiddiol pan gafodd pryderon am y feirws eu codi gyntaf.

Ers hynny, mae Boris Johnson wedi bod yn dioddef o’r coronafeirws ac wedi treulio cyfnod yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth, gan arwain y llywodraeth wedyn o’i gartref gwledig yn Chequers.

Mae Llywodraeth Prydain yn cael eu beirniadu am golli sawl cyfle i leihau effaith y feirws ym misoedd Chwefror a Mawrth.

Ond mae Downing Street yn amddiffyn Boris Johnson.

“Mae’r prif weinidog wedi bod wrth lyw’r ymateb i hyn, gan gynnig arweiniad yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn i’r genedl gyfan,” meddai llefarydd.

Diffyg cyfarpar diogelu

Ac mae ffrae o hyd am ddiffyg cyfarpar diogelu ar gyfer staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd, a nifer y bobol sy’n cael eu profi ar gyfer y feirws.

Ymhlith y rhai sy’n feirniadol mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur.

“Roedd y llywodraeth yn rhy araf wrth ddechrau’r gwarchae [lockdown],” meddai.

“Roedd yn rhy araf wrth gynyddu nifer y bobol sy’n cael eu profi.

“Roedd yn rhy araf wrth gael cyfarpar hanfodol oedd ei angen ar staff y Gwasanaeth Iechyd i’w cadw nhw’ n ddiogel.

“Mae angen i ni sicrhau nad yw’r camgymeriadau hyn yn cael eu hailadrodd.”

Y ffordd ymlaen

Mae Syr Keir Starmer yn galw am gynllun clir i fynd i’r afael â’r feirws fel bod Llywodraeth Prydain yn dechrau agor gwasanaethau eto fel mae rhai gwledydd eraill wedi dechrau ei wneud.

Yn ôl y Mail on Sunday, mae gan Lywodraeth Prydain gynllun “goleuadau traffig” tri cham i agor siopau DIY a chanolfannau garddio a galluogi plant i fynd yn ôl i’r ysgol erbyn canol mis Mai.

Yn ôl y Sunday Telegraph, mae Boris Johnson yn ôl wrth y llyw yn llawn amser erbyn hyn, gan roi gorchmynion i Dominic Raab, ei ddirprwy, a gweddill ei staff yr wythnos hon.

Mae’r Sunday Times, yn y cyfamser, yn adrodd nad oedd Boris Johnson mewn sawl cyfarfod allweddol i drafod ymlediad gwreiddiol y feirws, nad oedd e wedi cadeirio sawl cyfarfod, a’i fod e’n treulio’r penwythnosau yn Chequers ers tro.

Mae ffynhonnell yn dweud wrth y papur newydd ei fod e “fel prif weithredwr awdurdod lleol ugain mlynedd yn ôl”.

Ymateb Downing Street

“Mae’r llywodraeth wedi bod yn gweithio ddydd a nos i frwydro yn erbyn y coronafeirws, gan gyflwyno strategaeth a gafodd ei dylunio i warchod ein Gwasanaeth Iechyd ac achub bywydau bob amser,” meddai llefarydd ar ran Downing Street.

“Wedi ein harwain gan arbenigedd meddygol a gwyddonol, rydym wedi cyflwyno mesurau penodol i leihau ymlediad y feirws ar yr adeg pan fyddan nhw’n fwyaf effeithiol.

“Mae ein hymateb wedi sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd wedi cael yr holl gefnogaeth mae ei hangen arnyn nhw i sicrhau bod pawb sydd angen triniaeth wedi ei chael, yn ogystal â darparu gwarchodaeth i fusnesau a sicrwydd i weithwyr.”