Mae hanner staff nyrsio gwledydd Prydain yn dweud eu bod nhw’n teimlo dan bwysau i weithio heb gyfarpar diogelu personol yn ystod ymlediad y coronafeirws, yn ôl arolwg gan y Coleg Nyrsio Brenhinol.

Roedd oddeutu 14,000 o staff wedi ymateb i’r arolwg dros benwythnos y Pasg.

Dim ond 54% o’r rhai oedd wedi ymateb i’r arolwg oedd yn credu bod ganddyn nhw ddigon o hylif i olchi eu dwylo’n ddigonol.

Dywedodd 12% eu bod nhw’n dibynnu ar gyfarpar cartref neu gyfarpar roedden nhw wedi’i brynu iddyn nhw eu hunain i ddiogelu eu hwynebau neu eu llygaid.

Ymhlith y rhai oedd wedi ymateb roedd staff sy’n trin cleifion ar beiriannau anadlu, lle’r oedd 51% yn dweud bod gofyn iddyn nhw ailddefnyddio cyfarpar oedd wedi cael eu clustnodi ar gyfer defnydd un tro yn unig – 39% oedd y ffigwr mewn unedau eraill.

Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol bellach yn galw ar Lywodraeth Prydain i ddatrys y pryderon drwy “weithredu ar unwaith” wrth i nifer staff y Gwasanaeth Iechyd sy’n marw wrth drin cleifion â’r coronafeirws barhau i godi.

Maen nhw eisoes wedi cynghori staff i beidio â thrin cleifion os nad oes cyfarpar diogelu digonol ar gael.

Bydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu rhannu â’r awdurdodau perthnasol, gan gynnwys y Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Ymateb

“Mae’r argyfwng yma’n cipio bywydau staff nyrsio, ac mae eu cydweithwyr yn teimlo fel eu bod nhw wedi cael eu gadael yn agored,” meddai’r Fonesig Donna Kinnair, prif weithredwr ac ysgrifennydd cyffredinol y Coleg Nyrsio Brenhinol.

“Mae angen i bawb sy’n gwneud penderfyniadau ac sydd ynghlwm wrth hyn fynd i’r afael â’r sefyllfa ar frys.

“Mae staff nyrsio jyst eisiau gwneud eu gwaith – rhaid iddyn nhw gael eu gwarchod er mwyn gwneud hynny.

“Ar hyn o bryd, rwy’n bryderus iawn nad oes gyda ni ddigon o gyfarpar diogelu personol i staff gael gwarchod eu hunain, heb sôn am hwyluso ei roi i berthnasau allu gweld eu hanwyliaid yn ystod gofal diwedd oes,” meddai wrth aelodau seneddol.