Mae cynllun benthyciadau i fusnesau mawr sydd wedi cael eu heffeithio gan y coronafeirws wedi cael ei ehangu, meddai’r Canghellor.

Wrth amlinellu manylion pellach am y cynllun dywedodd Rishi Sunak y bydd busnesau sydd â throsiant o fwy na £45 miliwn yn gallu gwneud cais am hyd at £25m o gyllid, a bydd £50m ar gael i fusnesau sydd â throsiant o fwy na £250m.

Yn wreiddiol, doedd busnesau gyda throsiant o dros £500m ddim yn gymwys ar gyfer y cynllun, sydd yn cael ei sefydlu er mwyn helpu busnesau sydd ddim yn gymwys ar gyfer y cynllun sy’n rhoi cymorth i fusnesau bach a chanolig.

Dywed y Llywodraeth y bydd y cynllun, sydd yn dod i rym ar ôl ymgynghori helaeth gyda busnesau, yn sicrhau bod mwy o fusnesau yn gallu derbyn cymorth ariannol gan y Llywodraeth.

“Dw i eisiau sicrhau na fydd unrhyw fusnes sy’n gymwys yn colli allan ar ein cefnogaeth wrth iddyn nhw warchod yr economi a swyddi pobl,” meddai Rishi Sunak.

“Mae hwn yn ymdrech genedlaethol a byddwn yn parhau i weithio gyda’r sector gwasanaethau cyllidebol er mwyn sicrhau bod ein £330 biliwn o gefnogaeth lywodraethol, drwy fenthyciadau a gwarantau, yn cyrraedd gymaint o fusnesau mewn angen ag sy’n bosib.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes, Alok Sharma: “Mae’r coronafeirws yn ergyd drom i fusnesau o bob maint ar draws y Deyrnas Unedig.

“Bydd ehangu’r cynllun hwn yn darparu’r gefnogaeth sydd ei angen ar fusnesau yn ystod y pandemig, gan helpu i warchod swyddi miloedd o bobl yn ogystal â gwarchod yr economi.”

Bydd y Llywodraeth yn darparu gwarantau o 80% i fenthycwyr ar bob benthyciad er mwyn rhoi hyder iddynt wrth barhau i ddarparu cyllid.

Dywed y Llywodraeth y bydd y cynllun ar gael drwy gyfres o fenthycwyr achrededig, fydd yn cael eu rhestru ar wefan Banc Busnes Prydain.