Yr Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab, fydd yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig mewn cynhadledd G7 rithiwr wrth i’r Prif Weinidog, Boris Johnson, barhau i wella o’r coronafeirws.

Bydd yr Ysgrifennydd Tramor yn ymuno ag arweinwyr o Ffrainc, Almaen, Eidal, Canada a Siapan mewn cynhadledd sy’n cael ei gynnal gan Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, i drafod yr ymateb i bandemig y coronafeirws.

Mae’n debyg y bydd Dominic Raab yn defnyddio’r gynhadledd G7 ddydd Iau (Ebrill 16) i wthio am gyd-weithio ar yr ymateb iechyd ac economaidd i’r argyfwng.

“Mae trafod dwys wedi bod rhwng gwledydd y G7 ar lefel swyddogol a gweinidogol ers y galwad cyntaf rhwng arweinwyr fis Mawrth, gan gynnwys y galwad mwyaf diweddar rhwng gweinidogion cyllid y G7 ddoe,” meddai llefarydd ar ran y Prif Weinidog.

“Bydd yfory yn gyfle arall i sicrhau bod gwledydd yn cyd-dynnu o ran yr ymateb iechyd byd-eang yn ogystal â’r ymateb economaidd rhyngwladol.”

Dywed y llefarydd fod Dominic Raab yn bwriadu “tanlinellu’r angen am gyd-weithio byd-eang i ddelio â’r argyfwng hwn.”

Mae’r Prif Weinidog yn parhau i wella yn Chequers wedi iddo adael yr ysbyty.