Mae Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi derbyn sicrhad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig nad yw cyflenwyr PPE yn cael eu gorchymyn i flaenoriaethu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Lloegr dros yr Alban a Chymru.

Dywed Nicola Sturgeon y byddai’n “afresymol ac annerbyniol” i PPE gael ei ddargyfeirio o un rhan o’r Deyrnas Unedig i ran arall yn dilyn adroddiadau bod cyflenwyr wedi cael cyfarwyddyd i anfon offer i Loegr yn unig.

Mewn galwad gyda’r Llywodraethau datganoledig ddydd Mawrth (Ebrill 14), gwnaeth Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Matt Hancock, addewid nad oedd ei lywodraeth wedi gorchymyn fod Lloegr yn cael ei blaenoriaethu.

Mae Ysgrifennydd Iechyd yr Alban, Jeane Freeman, wedi croesawu’r sicrhad ac wedi annog Matt Hancock i ddatrys unrhyw gamddealltwriaeth gyda chwmnïau sy’n cyflenwi PPE.

Wrth siarad ar Good Morning Britain heddiw (dydd Mercher, Ebrill 15) dywed Nicola Sturgeon ei bod hi’n “fodlon derbyn y sicrhad hwnnw” ond bod angen i gyflenwadau fod yn deg ar draws y Deyrnas Unedig.

“Dwi wedi derbyn sicrhad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig nad yw hyn yn gyfarwyddyd sydd wedi cael ei roi gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr ac rwyf yn fodlon derbyn y sicrhad hwnnw,” meddai.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am sylwad.