Mae Dominic Cummings, prif ymgynghorydd Boris Johnson, wedi torri rheolau ymbellháu cymdeithasol wrth ddychwelyd i Downing Street ar ôl gwella o’r coronafeirws.

Mae wedi’i weld yn cerdded ar hyd Downing Street wrth ymyl ei gyd-ymgynghorydd, Cleo Watson.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd swyddogol y prif weinidog fod staff Downing Street yn ceisio dilyn y cyfarwyddyd lle bynnag bo hynny’n bosib.

Ymateb

“Mae o’n ôl yn Rhif 10 ac yn gweithio heddiw,” meddai’r llefarydd.

“Mae pawb yn Rhif 10 yn parhau i ddilyn rheolau ymbellháu cymdeithasol, sy’n golygu aros dwy fetr ar wahân lle bynnag bo hynny yn bosib.”

Mae’r prif weinidog yn parhau i wella yn Chequers wedi iddo adael yr ysbyty.

Dywed ei lefarydd nad yw Boris Johnson yn gwneud penderfyniadau, cymryd galwadau ffôn nac yn derbyn papurau swyddogol yn ei focs gweinidogol coch.

“Y flaenoriaeth yw i’r prif weinidog orffwys a gwella ac mae ei dîm meddygol wedi ei gynghori i beidio â dychwelyd i’r gwaith y syth,” meddai.