Mae nifer y ceir newydd gafodd eu gwerthu ym mis Mawrth wedi gostwng 44% o’i gymharu â’r flwyddyn ddiwethaf.

Cafodd oddeutu 203,000 yn llai o geir eu cofrestru nag yn yr un mis yn 2019, yn ôl Cymdeithas Cynhyrchwyr a Masnachwyr Moduron.

Cyhoeddodd gwledydd eraill yn Ewrop lockdown yn gynharach na’r Deyrnas Unedig, gan olygu bod y gostyngiad mewn galw am geir newydd yn fwy arwyddocaol.

Disgynnodd gwerthiant yn yr Eidal 85% fis diwethaf, tra bod Ffrainc a Sbaen wedi gweld gostyngiad o 72% a 69%.

“Gyda’r wlad mewn lockdown ac mewn argyfwng am ran helaeth o fis Mawrth, dyw’r gostyngiad ddim yn sioc,” meddai prif weithredwr Cymdeithas Cynhyrchwyr a Masnachwyr Moduron.

“Fodd bynnag, ni ddylwn gymryd canlyniadau hir dymor allan o’r ffigyrau yma heblaw bod hyn yn esiampl o beth sy’n digwydd pan mae economïau’n dod i stop.”

Bu gostyngiad o 62% yn nifer y ceir disel gafodd eu cofrestru, gyda modelau petrol yn disgyn 50%.

Roedd diwydiant cerbydau’r Deyrnas Unedig eisoes wedi dioddef gostyngiad mewn gwerthiant, gyda diffyg hyder cwsmeriaid a dryswch ynghylch pa dechnoleg tanwydd i’w ddefnyddio yn cael y bai.

Dywed Cymdeithas Cynhyrchwyr a Masnachwyr Moduron bod cwmnïau yn dal i weithio i sicrhau bod cerbydau yn cyrraedd gweithwyr hanfodol yn brydlon.

Mae’r gymdeithas wedi gostwng ei disgwyliadau gwerthiant am y flwyddyn gyfan i 1.73 miliwn, gostyngiad o 25% o’i gymharu a 2019.