Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi treulio’r noson yn yr ysbyty wrth i’w symptomau coronafeirws barhau.

Fe aeth i’r ysbyty fel “rhagofal” ar gyngor ei feddyg a bydd yn aros yno “mor hir ag sydd angen.”

Mae cyfanswm o 4,934 o gleifion – gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd – wedi marw yn yr ysbyty ar ôl profi’n bositif am coronafeirws yn ôl ffigyrau diweddaraf yr Adran Iechyd.

Roedd Boris Johnson, sy’n 55 mlwydd oed, wedi cael prawf positif am y feirws 10 diwrnod yn ôl ac mae wedi bod yn hunan ynysu yn ei fflat yn 11 Stryd Downing ers hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10: “Ar gyngor ei ddoctor, mae’r Prif Weinidog wedi mynd i’r ysbyty heno am brofion.

“Mae hwn yn gam rhagofal, gan fod y Prif Weinidog yn dal i ddangos symptomau coronafeirws parhaus 10 diwrnod ar ôl iddo brofi’n bositif am y feirws.”

Mae’n debyg bod ganddo wres uchel.

Dywedodd gweinidog yn y Cabinet bod Boris Johnson yn “parhau i arwain y Llywodraeth” er gwaetha’r ffaith ei fod yn yr ysbyty a’i fod yn cadw mewn cysylltiad agos gyda gweinidogion ei Gabinet.

Yn ei absenoldeb fe fydd yr Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab, yn cadeirio’r cyfarfod dyddiol am y coronafeirws heddiw (Dydd Llun, Ebrill 6).