Syr Keir Starmer yw arweinydd newydd y Blaid Lafur.

Fe drechodd Lisa Nandy a Rebecca Long-Bailey i olynu Jeremy Corbyn, gan ennill 56.2% o’r bleidlais.

Angela Rayner yw’r dirprwy arweinydd newydd.

Yr arweinydd newydd

Yn ôl Syr Keir Starmer, daw ei fuddugoliaeth “ar adeg fel yr un adeg arall yn ein hoes” yn sgil y coronafeirws.

Mae’n dweud bod “bywyd normal wedi dod i stop”, ond fod cymunedau wedi dod ynghyd.

“Galla i weld hyn yn digwydd, pobol yn dod ynghyd i helpu’r rhai ynysig a bregus, a gofalu am eu cymdogion,” meddai.

“Mae cymaint o bobol yn gwirfoddoli ar ran y Gwasanaeth Iechyd, miliynau o bobol yn chwarae rhan wrth atal y feirws ac achub bywydau.”

Gwrth-Semitiaeth

Wrth dalu teyrnged i Jeremy Corbyn, ei ragflaenydd, mae’n dweud y bydd e’n arwain y frwydr yn erbyn gwrth-Semitiaeth o fewn y blaid.

“Rwy eisiau talu teyrnged i Jeremy Corbyn, oedd wedi arwain ein plaid drwy adegau anodd iawn, ac a wnaeth fywiogi ein mudiad, ac sy’n ffrind yn ogystal â chydweithiwr,” meddai.

“Ac i’n holl aelodau, cefnogwyr ac aelodau cysylltiol, fe ddywedaf hyn – p’un a wnaethoch chi bleidleisio drosof fi neu beidio, fe wna i wrando arnoch chi ac fe wna i uno ein plaid ni.

“Ond rhaid i ni wynebu’r dyfodol â gonestrwydd.

“Fe fu gwrth-Semitiaeth yn straen ar ein plaid ni.

“Dw i wedi gweld cymaint o gymunedau Iddewig yn galaru yn ei sgil.

“Ar ran y Blaid Lafur, mae’n ddrwg gen i.

“Fe wna i rwygo’r gwenwyn hwn allan gerfydd ei wreiddiau a barnu llwyddiant yn ôl aelodau Iddewig yn dychwelyd, yn ogystal â’r rhai oedd yn teimlo na allen nhw ein cefnogi ni bellach.”

‘Mae ein gwerthoedd yr un fath’

Yn ôl Angela Rayner, mae gwerthoedd y Blaid Lafur “yr un fath” o hyd.

“Mae pethau wedi newid yn ddramatig i’n gwlad dros y misoedd diwethaf, ond mae ein gwerthoedd yn aros yr un fath, ac maen nhw’n bwysicach nag erioed,” meddai’r dirprwy arweinydd newydd.

“Dyna’r gwerthoedd y byddwn ni’n eu hystyried yn ein gweithredoedd fel gwrthblaid a mudiad – sefyll i fyny dros ein gwasanaethau cyhoeddus, ein gweithwyr a’n gofalwyr, a chymdeithas lle mae pobol yn cydweithio ac yn gofalu am ei gilydd.”