Dyw masgiau ddim yn helpu i atal coronafeirws rhag lledu ymysg y cyhoedd, yn ôl Cyfarwyddwr Clinigol yr Alban.

Dywed yr Athro Jason Leitch bod masgiau llawfeddygol yn helpu i rwystro’r feirws rhag lledaenu pan mae gweithwyr gofal iechyd yn delio â chleifion coronafeirws.

Ond does dim tystiolaeth bod masgiau yn atal y cyhoedd rhag cael eu heintio gan y feirws, meddai.

“Rydym wedi edrych ar y dystiolaeth byd eang a dw i’n addo nad yw masgiau yn gweithio,” meddai Jason Leitch ar raglen Good Morning BBC Radio Alban.

“Dyw pobl ddim yn eu gwisgo yn iawn, maen nhw’n galed, yn anodd, ac yn anghyfforddus.”

Mae gwledydd yn Asia wedi annog pobol i wisgo masgiau.

Mae’r feirws yn lledaenu pan mae cleifion yn tisian, tagu neu siarad – nid yw’n teithio drwy’r awyr.

“Mae yna draddodiad diwylliannol o wisgo [mwgwd] yn Asia oherwydd eu bod wedi dioddef o sawl feirws sy’n teithio drwy’r awyr o’r blaen,” meddai’r Athro Jason Leitch.

“Os byddai’r feirws yn yr awyr, byddai’r canllawiau yn wahanol iawn, ond dydi o ddim felly. Dyw masgiau ddim yn help.”