Mae meddygon mewn ysbyty wedi rhybuddio efallai y bydd angen cyfyngu gwasanaethau i’r lleiaf posib oherwydd gofid am ddiffyg mewn offer gwarchodol i staff.

Mae staff yn Ysbyty Southend yn Essex yn honni eu bod nhw’n “arswydo” wrth feddwl am gyfyngu’r offer gwarchodol.

Mewn llythyr a anfonwyd i’r rheolwyr, mae’r staff wedi rhybuddio os nad ydi safon ac argaeledd yr offer yn gwella erbyn diwedd heddiw (Ebrill 1)bydd yn rhaid iddyn nhw gyflwyno “gwasanaethau cyfyngedig” mewn ardaloedd risg uchel yn yr ysbyty.

Daw’r adroddiadau hyn wrth i rai undebau rybuddio fod y diffyg mewn offer gwarchodol yn “argyfwng o fewn argyfwng.”

“Amgylchiadau hynod o anfoddhaol”

Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi addewid y bydd miliynau o ddarnau o offer yn cael eu dosbarthu ar draws y wlad, ac fe all staff sydd yn pryderu alw’r linell gymorth cenedlaethol.

Ond mae’r cylchrawn meddygol “Pulse” wedi adrodd fod rhai sydd eisoes wedi galw’r linell gymorth wedi cael cyfarwyddiadau i brynu’r offer “trwy eu cyflenwyr arferol.”

Mae o leiaf un meddygfa deuluol wedi archebu masgiau drwy Amazon er mwyn ceisio gwarchod eu staff pan fethodd eu cyflenwyr arferol ddarparu’r offer.

“Rydw i’n cydnabod fod y rhai ar flaen y gad wedi wynebu amgylchiadau hynod o anfoddhaol” meddai’r Ysgrifennydd Cymunedol Llywodraeth y DU, Robert Jenrick.

“Mewn rhai doedd ganddyn nhw ddim yr offer penodol oedd eu hangen arnyn nhw na’r argyhoeddiad y byddan nhw ar gael mewn ychydig ddyddiau oherwydd fod cyflenwadau yn prinhau.”

Dywedodd fod yna “ymgyrch filitaraidd” ar waith i symud cyflenwadau o amgylch y wlad ac mae dosbarthwyr cenedlaethol yn cael eu defnyddio i “gael y cyflenwadau allan mewn ffordd lawer mwy trefnus a chynaliadwy.”

Cwmnïau allanol yn helpu

Yn y cyfamser, mae’r cwmni JCB wedi rhoi 8,000 pâr o fenig a bocsys o fasgiau i ysbytai yn Swydd Stafford.

Ac mae Tata Steel ym Mhort Talbot wedi dosbarthu fan yn llawn masgiau, menig, ffedogau a gorchuddion esgidiau i staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.