Mae Llywodraeth Prydain a chwmnïau awyr yn cydweithio i gludo pobol adref i wledydd Prydain, yn ôl Dominic Raab, Ysgrifennydd Tramor San Steffan.

Fe fu’n arwain y gynhadledd i’r wasg ddyddiol ar y coronafeirws yn Downing Street neithiwr (nos Lun, Mawrth 30), wrth i’r prif weindiog Boris Johnson barhau i ynysu ei hun.

Mae £75m wedi’i neilltuo ar gyfer hediadau arbennig i sicrhau bod pobol o wledydd Prydain yn cael dod adref ar ôl i deithiau masnachol ddod i ben yn sgil rheolau llym ar deithio o ganlyniad i’r feirws.

Mewn gwledydd lle nad yw teithio wedi’i gyfyngu, fe fydd Llywodraeth Prydain yn cefnogi’r awdurdodau i gynnal teithiau.

Memorandwm

Fe ddaw’r cyhoeddiad ar ôl i sawl cwmni awyr, gan gynnwys Virgin, easyJet a Titan lofnodi memorandwm a gafodd ei drefnu gan Dominic Raab a’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps.

Mae British Airways hefyd wedi ymrwymo i gludo pobol adref.

Yn ôl Dominic Raab, fe fydd teithiau’n cael eu cynnig “am gost isel, os o gwbl, lle mae teithiau wedi’u canslo”, ac mae’n dweud y bydd modd i deithwyr gyfnewid tocynnau am deithiau neu gwmnïau gwahanol.

Fe fu’n ymbil ar bobol i beidio ag aros cyn teithio, ac i ddychwelyd adref cyn gynted â phosib.

Mae cyngor ar gael i deithwyr ar wefan Llywodraeth Prydain.

Cwmnïau awyr dan bwysau

Mae argyfwng y coronafeirws yn rhoi pwysau ychwanegol ar gwmnïau awyr.

Mae easyJet wedi dod â phob un o’i 344 o awyrennau i’r ddaear er mwyn arbed costau.

Ac mae disgwyl i’r cwmni Albanaidd Loganair ofyn i’r Llywodraeth am gefnogaeth ariannol er mwyn ymdopi â’r sefyllfa economaidd sy’n deillio o’r feirws.

Mae dau hediad o Beriw eisoes wedi cludo teithwyr adref, a’r rheiny’n cynnwys Ffred a Meinir Ffransis, oedd wedi glanio yn Heathrow bore ddoe (dydd Llun, Mawrth 30).

Mae Llywodraeth Prydain, ynghyd â llywodraethau sawl gwlad arall yn Ewrop, eisoes wedi dod â phobol adref o Wuhan yn Tsieina.

‘Ddim yn ddigon da’

Er gwaetha’r cyhoeddiad, mae’r Blaid Lafur yn beirniadu ymateb Llywodraeth Prydain i sefyllfa’r teithwyr.

“Cawsom addewid o strategaeth newydd ar gludo pobol adref heddiw, ond i’r cannoedd o filoedd o Brydeinwyr sy’n sownd dramor a’u teuluoedd adref, roedd yn golygu rhagor o’r un peth,” meddai Emily Thornberry, llefarydd materion tramor y blaid.

“Dydy mwy o ddibyniaeth ar hediadau masnachol sydd, i lawer gormod o deithwyr Prydeinig mewn gormod o lefydd, jyst ddim yn opsiwn ar hyn o bryd.

“[Dyma] ragor o addewidion annelwig am hediadau siartr, ond dim ymrwymiad na’r byrder mae gwledydd eraill fel yr Almaen wedi’i ddangos yn hyn o beth.

“Rhagor o ddangos cefnogaeth i’n Prydeinwyr dramor, ond dim atebion i unrhyw un o’r problemau penodol maen nhw’n eu codi, o golli yswiriant teithio a llety i gyflenwadau meddygol ac ariannol yn gostwng.

“Mae angen strategaeth gynhwysfawr wedi’i hariannu’n llawn er mwyn dod â’n Prydeinwyr adref, gan ddefnyddio pob opsiwn sydd gan y Llywodraeth, a rhoi’r holl gefnogaeth ymarferol a chymorth sydd ei angen arnyn nhw yn y cyfamser.

“Nid dyna gawson ni heddiw, a dydy hynny ddim yn ddigon da.”