Mae’r cwmni awyrennau EasyJet wedi dweud na fydd eu hawyrennau’n hedfan o gwbl am y tro oherwydd y coronafeirws.

Dywedodd y cwmni, sydd wedi ei leoli yn Luton, fod stopio 344 o’u hawyrennau rhag teithio yn “dileu costau sylweddol” wrth i’r diwydiant awyrennau fynd i drafferthion wrth geisio dygymod wedi i’r galw am y gwasanaeth leihau oherwydd y feirws.

Er hyn, mae EasyJet yn mynnu fod eu sefyllfa ariannol yn gryf.

Cefnogi’r criw caban

Cyhoeddodd y cwmni awyrennau hefyd eu bod wedi dod i gytundeb gyda’r undeb Unite ynglŷn â threfniadau i’r criw areu hawyrennau.

Bydd y cytundeb yn dod i rym ddydd Mercher, Ebrill 4, am ddau fis ac fe fydd y criw yn derbyn 80% o’u cyflog arferol drwy ymgyrch cynhaliaeth swyddi’r Llywodraeth.

Dywedodd Prif Weithredwr EasyJet Johan Lundgren; “Rydw i’n hynod o falch o’r ffordd mae staff EasyJet drwyddi draw wedi rhoi o’u gorau mewn amser mor heriol, gan gynnwys sawl criw sydd wedi gwirfoddoli i weithio ar hediadau achub i ddod a chwsmeriaid adref.”

Mae’r cwmni wedi gweithredu mwy ‘na 650 o hediadau er mwyn cludo pobl sydd yn sownd mewn gwledydd eraill yn ol adref.

“Rydym yn gweithio’n ddiflino i sicrhau fod EasyJet mewn sefyllfa iach i oresgyn heriau’r coronafeirws,” meddai Johan Lundgren.

Loganair

Yn y cyfamser mae cwmni awyrennau Loganair o’r Alban wedi dweud y bydd yn gofyn i’r Llywodraeth am arian er mwyn mynd i’r afael ag effaith y coronafeirws ar eu busnes.

Dim pecyn cefnogi penodol

Yn ôl y Canghellor Rishi Sunak, ni fydd y Llywodraeth yn darparu pecyn cefnogi penodol ar gyfer y diwydiant awyrennau, ond eu bod yn barod i drafod telerau gyda chwmnïau unigol unwaith y byddan nhw wedi “ceisio pob dewis arall” fel codi arian gan fuddsoddwyr presennol.

Mae Virgin Atlantic yn barod wedi erfyn ar y Llywodraeth i gynnig credyd argyfwng i gwmnïau awyrennau hyd at £7.5 biliwn.