Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi dweud y bydd Prydain yn trechu’r argyfwng coronafeirws “gyda’n gilydd” ar ôl rhybudd bod posibilrwydd y bydd y cyfyngiadau ar fywydau pobl Prydain yn parhau am o leiaf 6 mis.

Mae Boris Johnson ar hyn o bryd yn hunan ynysu ar ôl cael canlyniad positif am Covid-19, ond fe ganmolodd y 750,000 o wirfoddolwyr sydd wedi cynnig helpu’r Gwasanaeth Iechyd.

“Cymdeithas”

Mewn fideo o’i fflat uwchben Rhif 11 yn Downing Street, canmolodd Boris Johnson yr 20,000 o gyn-weithwyr y Gwasanaeth Iechyd sydd wedi dod yn ôl i wasanaethu yn ystod y pandemig.

Dewisodd hefyd i wrthddweud sylwadau’r cyn-Brif Weinidog Ceidwadol Margaret Thatcher “nad oes y fath beth â chymdeithas.”

“Rydym am wneud hyn,” meddai Boris Johnson, “rydym am wneud hyn gyda’n gilydd. Un peth mae’r argyfwng coronafeirws wedi ei brofi yn barod ydi fod yna wir y fath beth â chymdeithas.”

Ddoe, [dydd Sul, Mawrth 29],  bu cynnydd o 209 o farwolaethau sydd yn dod a’r cyfanswm ym Mhrydain i 1,228.

“Cadw caead”

Dros y penwythnos cyhoeddodd ymchwilwyr eu bod yn gweithio gyda Fformiwla Un i greu peiriant anadlu newydd at ddefnydd y Gwasanaeth iechyd, ac fe gyhoeddodd y llywodraeth fod profion Covid-19 i bob gweithiwr  iechyd yn Lloegr wedi dechrau ddydd Sul (Mawrth 29).

Yn ôl Dirprwy Brif Swyddog Iechyd Lloegr Dr Jenny Harries, fe allai’r mesurau pellter cymdeithasol gael eu llacio yn raddol.

Byddai llacio’r mesurau’n rhy gyflym yn “gwastraffu” aberth diweddar y genedl meddai Dr Jenny Harries gan olygu cynnydd sydyn mewn marwolaethau.

“Mae angen i ni gadw’r caead arno ac yna yn raddol gobeithio y gallwn addasu rhai o’r mesurau pellter cymdeithasol ac yna’n raddol dychwelyd i normal.”

“Tri mis i adolygu, dau neu dri mis i weld os ydyn ni wedi ei drechu’n llwyr, ond chwe mis yn ddelfrydol, ond mae llawer o ansicrwydd yn hynny – mae angen  gweld ar ba bwynt y gallwn ni fynd yn ôl i normalrwydd ac mae’n ddigon posib y gallai fynd ymhellach ‘na hynny.”