Gallai hyd at 50,000 o Albanwyr fod wedi eu heintio gyda’r coronafeirws, gyda nifer y marwolaethau bellach wedi codi i 25.

Dywed Dr Catherine Calderwood, prif swyddog meddygol y wlad, fod y nifer swyddogol o bobol sydd wedi profi’n bositif am y feirws yn “amcangyfrif rhy isel”.

Mae ffigyrau ddydd Iau (Mawrth 26) yn dangos bod 894 o bobol yn yr Alban bellach wedi eu heintio gyda’r feirws, sy’n gynnydd o 175 o gyfanswm y diwrnod cynt, sef 719.

Cododd y nifer o farwolaethau ymysg cleifion coronafeirws o dri i 22 ddydd Mercher (Mawrth 25).

“Mae’n debygol ein bod yn edrych ar oddeutu 40,000 i 50,000 o bobl yn yr Alban sydd bellach wedi ei heintio gyda’r coronafeirws,” meddai Dr Catherine Calderwood.

“Dyw nifer ohonyn nhw ddim yn ymwybodol eu bod yn heintiedig eto, nag yn sylweddoli eu bod yn mynd o gwmpas yn heintio eraill o’u cwmpas.”

Er iddi hi ddweud ei bod hi’n galonogol gweld strydoedd a siopau gwag, rhybuddiodd fod y frwydr yn erbyn yr afiechyd yn “mynd i fod yn un hir.”