Dyn 84 oed yw’r carcharor cyntaf yng ngwledydd Prydain i farw o’r coronafeirws.
Roedd yn garcharor yng ngharchar Littlehey, ac yn droseddwr rhyw categori C.
Roed ganddo broblemau iechyd eraill, a bu farw yn yr ysbyty ddydd Sul (Mawrth 22).
“Mae ein meddyliau gyda’i deulu,” meddai llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai.
“Fel pob marwolaeth mewn dalfa, bydd yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf yn cynnal ymchwiliad annibynnol.”
Mae 19 o garcharorion wedi profi’n bositif am y coronafeirws ar draws 10 o garchardai ac mae pedwar aelod o staff carchardai wedi profi’n bositif am yr afiechyd mewn pedwar carchar gwahanol.
Mae tri aelod o staff y gwasanaeth gosgordd a gwarchodaeth wedi profi’n bositif am y coronafeirws hefyd.
Dywed y Gwasanaeth Carchardai fod cynlluniau cadarn yn cael eu cyflwyno yn eu cyfleusterau mewn ymgynghoriad gyda Iechyd Cyhoeddus Lloegr a’r Adran Iechyd a Gofal Cyhoeddus.
Ychwanegodd fod carchardai yn barod i weithredu’n syth pryd bynnag y bydd achosion o’r coronafeirws yn cael eu datgelu, gan gynnwys ynysu unigolion pan fo angen.