Mae nifer y meirw oherwydd y coronafeirws yn y Deyrnas Unedig wedi cynyddu i 35.

Dywedodd yr Adran Iechyd bod 14 person yn Lloegr wedi marw o’r firws ar ôl cael prawf positif am Covid-19. Mae hyn yn dilyn 10 marwolaeth ddydd Sadwrn (Mawrth 14).

Mae cyfanswm o 34 person wedi marw o’r firws yn Lloegr, tra bod un farwolaeth yn yr Alban.

Dywedodd y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr bod y marwolaethau a gyhoeddwyd ddydd Sul (Mawrth 15) ymhlith pobl rhwng 59 a 94 oed, a bod ganddyn nhw broblemau iechyd eisoes.

Hyd yn hyn mae 1,372 o bobl wedi cael prawf positif am y coronafeirws yn y Deyrnas Unedig.

94 achos yng Nghymru

Roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 34 o achosion newydd o Covid-19 yng Nghymru ddydd Sul gan ddod a’r cyfanswm yn y wlad i 94.

Fe fu 11 achos newydd yng Ngogledd Iwerddon gan ddod a chyfanswm yr achosion yno i 45.

Yn y cyfamser mae’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock wedi dweud y dylai pobl dros 70 oed ynysu eu hunain o fewn yr wythnosau nesaf am hyd at bedwar mis, er mwyn eu diogelu rhag o firws.

Mae arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn, 70, wedi beirniadu’r Llywodraeth gan ddweud ei bod “ymhell y tu ôl” i wledydd eraill yn y modd mae’n mynd i’r afael a’r firws.

Dywedodd bod angen “canllawiau mwy clir a gwell cefnogaeth”.

Yn yr Unol Daleithiau, mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi gwaharddiad ar awyrennau o’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon gyda’r cyfyngiadau yn dod i rym am 4yb ddydd Mawrth (Mawrth 17).