Mae’r diwydiant teithiau awyr yn wynebu “argyfwng di-gynsail” yn sgil coronavirus, yn ôl nifer o undebau sy’n rhybuddio am ddyfodol y diwydiant.

Mae arweinwyr yr undebau wedi creu cynllun, ond maen nhw’n galw am gymorth Llywodraeth Prydain i’w helpu i achub miloedd o swyddi.

Mae eu cynllun yn cynnwys:

  • gofyn i Lywodraeth Prydain gyfrannu at gyflogau gweithwyr, ac ystyried buddsoddi mewn cwmnïau a meysydd awyr
  • ymestyn benthyciadau i gwmnïau a meysydd awyr i leddfu eu pryderon ariannol a’u helpu i gadw staff a theithiau
  • gohirio taliadau trethi dros dro, gan gynnwys y Dreth ar Deithwyr Awyr
  • galw am gefnogaeth y llywodraeth i gefnogi llwybrau teithiau drwy ariannu’n unol â rheolau gwasanaeth cyhoeddus

Trafodaethau

Mae trafodaethau ar y gweill gyda’r posibilrwyd y gallai gweithwyr gymryd gwyliau di-dâl, diswyddiadau dros dro a diswyddiadau parhaol.

Mae nifer y teithiau a’r teithwyr yn gostwng yn sylweddol, ac mae nifer o lwybrau wedi dod i ben yn llwyr.

Yn ôl undebau, mae camau eisoes yn cael eu cymryd yn Ffrainc, yr Almaen a’r Eidal i gefnogi’r diwydiannau yn y gwledydd hynny.

“Rhaid i’r llywodraeth weithredu’n bendant a gweithredu nawr, fel y bydd diwydiant hedfan Prydain yn bod o hyd pan ddaw argyfwng coronavirus i ben,” meddai llefarydd.