Mae’r awdurdodau’n dweud bod deg yn rhagor o bobol yn Lloegr wedi marw o coronavirus.

Mae’n golygu bod 21 o bobol wedi marw yng ngwledydd Prydain hyd yn hyn.

Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr, roedd gan nifer o’r cleifion, oedd i gyd dros 60 oed, gyflyrau iechyd hirdymor.

Roedden nhw’n derbyn gofal yn Swydd Buckingham, Birmingham, Wolverhampton, Caerlŷr, Barts, Llundain, Middlesex a Chaer.