Mae disgwyl i Lywodraeth Prydain wahardd cynulliadau mawr yr wythnos nesaf, wrth iddyn nhw gyflwyno mesurau llymach i fynd i’r afael â coronavirus.

Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, eisoes dan y lach am ei ymateb i’r firws sy’n lledu ar draws y byd, gyda’r Alban eisoes wedi gwahardd cynulliadau o fwy na 500 o bobol.

Mae camau tebyg eisoes yn eu lle mewn sawl gwlad yn Ewrop, ac mae Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau yn ystyried ychwanegu Prydain at restr o wledydd sydd wedi’u gwahardd i deithwyr.

Roedd Llywodraeth Prydain wedi bod yn wfftio’r angen i gyflwyno mesurau o’r fath, ond mae Syr Patrick Vallance, arbenigwr iechyd, yn dweud y gallai greu “imiwnedd torfol”.

Yn ôl Whitehall, gallai mwy o bobol gael eu gorfodi i weithio o adref, a gallai’r heddlu a swyddogion mewnfudo gael pwerau newydd i ddwyn pobol i’r ddalfa os ydyn nhw wedi’u hamau o fod wedi’u heintio.

Gallai ysgolion hefyd gael eu gorfodi i aros ar agor.

Gallai’r mesurau hyn fod mewn grym am hyd at ddwy flynedd, yn ôl adroddiadau.

Mae 798 o achosion wedi’u cadarnhau yng ngwledydd Prydain, ac 11 o bobol wedi marw.