Mae Trevor Phillips, un o hen lawiau’r Blaid Lafur, yn galw ar ymgeiswyr arweinyddol y blaid i ddweud yn gyhoeddus a ydyn nhw’n cefnogi ei wahardd o’r blaid dros honiadau o Islamoffobia.

Mae’r ymgyrchydd gwrth-hiliaeth a chyn-gadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn wynebu ymchwiliad a’r posibilrwydd o gael ei ddiarddel o’r blaid dros sylwadau wnaeth o yn y gorffennol.

Ond mae o wedi amddiffyn ei sylwadau, gan ddweud mai “nonsens” yw diffinio bod yn wrth-Islam fel hiliol gan nad yw Mwslimiaid yn adnabod eu hunain fel hil.

Yn ôl y Daily Telegraph, mae gŵr 66 oed wedi galw ar Syr Keir Starmer, Lisa Nandy a Rebecca Long-Bailey i “ddewis ochr” a dweud a ydyn nhw o blaid ei wahardd.

‘Prawf’

Dywed Trevor Phillips wrth y papur fod y mater yn “brawf i weld pa fath o blaid mae’r ymgeiswyr yma eisiau ei harwain.”

Mae hyn wedi’i ategu gan ymgynghorydd gwrth-semitiaeth y Llywodraeth, yr Arglwydd John Mann.

“Mae’n dangos arweinyddiaeth unai i gefnogi’r ymchwiliad neu Trevor Phillips,” meddai.

“Dyw gwahardd cadeirydd cyntaf y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ddim yn fater i eistedd ar y ffens yn ei gylch.”