Mae disgwyl “rhai miloedd” o achosion o coronavirus yng ngwledydd Prydain, yn ôl Dr Jenny Harries, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol.

Mae’n dweud bod gwledydd Prydain yn dal wrthi’n ceisio atal y firws rhag lledu gan fod cyn lleied o achosion hyd yn hyn.

Ond mae hi’n rhybuddio bod gwaeth i ddod, gyda 319 o achosion wedi’u cadarnhau erbyn bore ddoe (dydd Llun, Mawrth 9), a phedwar o bobol wedi marw.

“Yn amlwg, bydd gyda ni niferoedd arwyddocaol mewn ffordd nad yw’r wlad yn gyfarwydd â hi,” meddai Dr Jenny Harries.

“Dyma’r math o beth rydyn ni wedi ein hyfforddi ar ei gyfer yn broffesiynol ond prin iawn yn ei weld yn ystod ein gyrfaoedd proffesiynol.

“Bydd nifer fawr o’r boblogaeth yn cael eu heintio oherwydd mae’ boblogaeth naïf, does gan neb wrth-gyrff ar gyfer y firws yma ar hyn o bryd.

“Byddwn ni’n gweld nifer o filoedd o bobol yn cael eu heintio â coronavirus, dyna rydyn ni’n ei weld mewn gwledydd eraill a’r peth pwysig yw i ni sicrhau ein bod ni’n rheoli’r heintiau hynny.”