Mae Layla Moran wedi cyhoeddi ei bwriad i sefyll fel ymgeisydd i arwain y Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywed fod penderfyniad y blaid i gefnogi dileu Erthygl 50 yn “gamgymeriad mawr”, ac mae’n dweud fod “pryder mawr” nad yw pleidleiswyr yn gwybod beth yw safbwyntiau’r blaid ar wahanol faterion.

Collodd y blaid dipyn o dir yn yr etholiad cyffredinol, wrth golli deg sedd yn San Steffan, fel bod ganddyn nhw 11 o aelodau seneddol yn unig erbyn hyn, wrth i’r arweinydd Jo Swinson golli ei sedd hithau yn yr Alban.

“Bydda i’n sefyll ar gyfer arweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol,” meddai Layla Moran ar raglen Sophy Ridge on Sunday.

“Dw i’n credu ei bod yn bryd i ni symud yn ein blaenau fel plaid a chynnig gweledigaeth bositif ar gyfer y wlad, a fi yw’r person iawn i arwain y newid hwnnw.”

Dywed aelod seneddol Gorllewin Rhydychen ac Abingdon ei bod yn “bwysig iawn ein bod ni’n gwrando ac yn deall ble aeth pethau o’i le i ni”.

Mae’n dweud ei bod hi eisiau canolbwyntio ar gyfle cyfartal, addysg a’r argyfwng hinsawdd, yn ogystal â sicrhau gwleidyddiaeth lai plwyfol.

Erthygl 50

“Roedd y symudiad i ffwrdd o Bleidlais y Bobol, a fyddai wedi llwyddo mewn nifer o ardaloedd yn y wlad dw i’n meddwl, wedi’i arwain yn rhannol gan ddiffyg amrywiaeth o leisiau yn yr ystafell honno,” meddai.

“Dw i’n credu bod gwir angen i ni edrych yn ofalus ar sut rydyn ni’n gwneud penderfyniadau strategol mawr yn y blaid ac, fel arweinydd, dw i’n credu bod hynny’n rywbeth y byddai’n rhaid i ni ei newid.”

Mae’n dweud bod clymbleidio â’r Ceidwadwyr yn y gorffennol “wedi lleihau ymddiriedaeth” yn y blaid, ac nad yw Brexit heb gytundeb “y peth iawn i’r wlad”.

Layla Moran yw’r ffefryn erbyn hyn i ennill y ras, gyda Syr Ed Davey, Daisy Cooper a Wera Hobhouse hefyd yn sefyll.