Mae’n “debygol iawn” y bydd coronavirus yn lledu ar draws y Deyrnas Unedig, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Lloegr.
Daw’r rhybudd wrth i’r Prif Weinidog Boris Johnson gadeirio cyfarfod o’r pwyllgor argyfyngau Cobra heddiw (dydd Llun, Mawrth 2) i drafod cynlluniau i ddelio gyda’r firws.
Mae Boris Johnson wedi cael ei feirniadu gan Lafur am beidio gweithredu’n gynt wrth i nifer y bobl sy’n dioddef o coronavirus yn y Deyrnas Unedig gynyddu i 36 dros y penwythnos. Un achos sydd wedi’i gadarnhau yng Nghymru hyd yn hyn.
Dywedodd yr Athro Paul Cosford, cyfarwyddwr meddygol Iechyd Cyhoeddus Lloegr y gallai rhagor o achosion fod yn heriol i’r Deyrnas Unedig ac mae wedi annog pobl i gymryd camau bach fel golchi dwylo er mwyn atal y risg o heintio.
“Tebygol iawn”
Mewn cyfweliad gyda BBC Breakfast, dywedodd: “Fyswn i ddim yn dweud ei fod yn anochel ond mae bellach yn debygol iawn [y bydd yn lledu].”
Ychwanegodd bod plant ac oedolion iach yn wynebu llai o risg o drafferthion difrifol ond bod pobl hyn a rhai gyda chyflyrau difrifol yn “achosi mwy o bryder.”
Fe rybuddiodd yr Athro Paul Cosford hefyd efallai y bydd yn rhaid “lleihau cysylltiadau cymdeithasol” os yw’r firws yn parhau i ledu.
“Mae’n bosib y byddwn ni mewn sefyllfa lle ry’n ni’n dweud wrth bobl am barhau i fynd i’r ysgol, parhau i fynd i’r gwaith ond os fedrwch chi weithio o adre yna mae hynny’n beth call i’w wneud, a meddwl am y gwahanol ffyrdd y gallwch chi leihau cysylltiad cymdeithasol y tu hwnt i’r pethau hynny.”
Nazanin Zaghari-Ratcliffe – “symptomau coronavirus”
Yn y cyfamser dywed gwr Nazanin Zaghari-Ratcliffe, sy’n cael ei charcharu yn Iran, ei bod hi’n dioddef o “holl symptomau” coronavirus ond nad ydy hi wedi cael prawf am y firws hyd yn hyn.
Yn ôl Richard Ratcliffe mae hi wedi bod yn ceisio cael prawf ond bod y carchar lle mae hi dan glo “yn amlwg wedi cael gorchymyn” i beidio caniatáu hynny.