Fe fydd maes awyr Heathrow yn cyflwyno apêl i’r Goruchaf Lys ar ôl i ymgyrchwyr ennill achos yn y Llys Apêl i atal trydedd llain lanio.

Roedd elusennau amgylcheddol Greenpeace, Cyfeillion y Ddaear a Plan B ymhlith y rhai oedd yn gwrthwynebu’r cynlluniau, ynghyd â Sadiq Khan, Maer Llundain.

Dywedodd y barnwyr yn y Llys Apêl fod Llywodraeth Prydain wedi methu ystyried eu hymrwymiad i Gytundeb Paris ar newid hinsawdd wrth gefnogi’r cynlluniau.

Yn ôl y cytundeb, mae gan lywodraethau ddyletswydd i wneud popeth o fewn eu gallu i atal niwed i’r amgylchedd ac i osgoi gwneud unrhyw beth sy’n achosi cynhesu byd eang.

Roedd Boris Johnson ymhlith y rhai oedd yn gwrthwynebu’r cynlluniau pan oedd e’n Faer Llundain, gan ddweud y byddai’n barod i “orwedd o flaen peiriannau” i’w atal rhag mynd yn ei flaen.

Fe wnaeth yr ymgyrchwyr apelio i’r Uchel Lys fis Mai ar ôl i’w ddyfarniad atal pedwar adolygiad barnwrol o benderfyniad Llywodraeth Prydain i fwrw ymlaen gyda’r cynlluniau.

Pleidlais yn San Steffan

Fis Mehefin y llynedd, roedd cefnogaeth gan aelodau seneddol Llafur i ehangu’r maes awyr yn ddigon i ennill y bleidlais yn San Steffan.

Roedd y llywodraeth ddiwethaf yn dweud y byddai’n sicrhau dyfodol Prydain “fel cenedl fyd-eang yn y byd ôl-Brexit”.

Mae maes awyr Heathrow wedi bod yn dweud y gallai trydedd llain lanio gael ei chyflwyno yn 2028 neu 2029, er iddyn nhw ddweud yn y gorffennol y gallai fod yn barod erbyn 2026.