Fe fydd pasborts y Deyrnas Unedig yn newid lliw o ddechrau’r mis nesaf ymlaen i nodi ymadawiad y wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd.

Glas fydd lliw’r dogfennau newydd a fydd yn cymryd lle’r rhai coch tywyll mewn newid sydd wedi cael ei groesawu’n frwd gan gefnogwyr Brexit.

“Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi rhoi cyfle unigryw inni adfer ein hunaniaeth genedlaethol a thorri cwys newydd yn y byd,” meddai’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel.

“Trwy ddychwelyd at y dyluniad eiconig glas ac aur, bydd y pasbort Prydeinig unwaith eto wedi’i gyfrodeddu â’n hunaniaeth genedlaethol.”

Bydd y pasborts newydd yn cael eu cyflwyno o ddechrau Mawrth ymlaen ac erbyn canol y flwyddyn mae’r llywodraeth yn rhagweld y bydd pob pasbort yn las. Bydd rhai coch tywyll yr Undeb Ewropeaidd yn dal yn ddilys hyd nes byddan nhw wedi dod i ben.