Mae un o brif ymgynghorwyr Boris Johnson wedi ymddiswyddo yn dilyn sylwadau sarhaus am feichiogrwydd damweiniol a phobol groenddu.

Fe ddaeth ei sylwadau i’r amlwg ar ôl iddo ddweud bod beichiogrwydd damweiniol yn creu “is-ddosbarth cymdeithasol” a bod IQ pobol groenddu yr Unol Daleithiau’n is nag IQ pobol â chroen gwyn.

Cafodd ei feirniadu gan y Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur ond mae’n dweud bod yr “hysteria ynghylch fy hen stwff ar-lein yn wallgof”, ac mae’n cyhuddo’r wasg o “ddewis a dethol dyfyniadau” ac o “ladd ar ei gymeriad”.

Roedd hefyd wedi dweud bod manteision cyffur i helpu’r cof “yn werth un crwt yn marw unwaith y flwyddyn”.

Roedd prif weinidog Prydain wedi dod dan bwysau i ddiswyddo Andrew Sabisky, a gafodd ei benodi ar ôl i Dominic Cummings wahodd “misfits” a “weirdos” i ymgeisio am swyddi.

Ond mae Downing Street yn gwrthod gwneud sylw am y penodiad.

Mae Llafur yn dweud bod diffyg ymateb Downing Street i’w sylwadau’n “ffiaidd”, tra bod Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, yn galw ar Lywodraeth Prydain i “ddangos gwerthoedd sylfaenol ond hanfodol”.

Fel newyddiadurwr, roedd Boris Johnson yn adnabyddus am ei sylwadau sarhaus am IQ pobol groenddu o’u cymharu â phobol â chroen gwyn, ac mae arbenigwyr geneteg wedi beirniadu ei safbwyntiau.