Mae’r gwasanaethau brys wedi dod o hyd i ddau gorff yn Swydd Caint
Daethon nhw o hyd i’r corff cyntaf wrth chwilio am ddyn yn ardal Margate.
Roedden nhw wedi bod yn chwilio amdano yn dilyn adroddiadau bod dyn yn y môr yn ardal Margate.
Cawson nhw eu galw am 5.41 fore heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 15), ac fe ddaethon nhw o hyd i’r corff am oddeutu 1 o’r gloch.
Cafodd corff arall ei dynnu o’r môr yn Hearne Bay am oddeutu 12.15 heddiw, ac mae teulu’r dyn wedi cael gwybod.
Fe ddaw wrth i Storm Dennis daro rhannau helaeth o wledydd Prydain, a dydy’r heddlu ddim yn cysylltu’r ddau ddigwyddiad.