Mae Emily Thornberry allan o’r ras i arwain y Blaid Lafur ar ôl iddi fethu â sicrhau digon o enwebiadau i gael rhoi ei henw ar y papurau pleidleisio.

Roedd gan yr ymgeiswyr tan ganol nos neithiwr (nos Wener, Chwefror 14) i gael hyd i 33 o enwebiadau, ond roedd hi ddau yn brin.

Wnaeth neb o gynghreiriaid Llafur ei henwebu.

Y tri sy’n dal yn y ras yw Syr Keir Starmer, Rebecca Long-Bailey a Lisa Nandy, sydd eisoes wedi sicrhau digon o enwebiadau.

Bydd y bleidlais yn agor ar Chwefror 24 ar y we, yn y post ac i gefnogwyr sydd wedi cofrestru i bleidleisio, a’r canlyniad terfynol yn cael ei gyhoeddi ar Ebrill 4.

Mae Emily Thornberry yn dweud ei bod yn “drueni” na fydd hi’n cael parhau yn y ras, ond mae hi wedi talu teyrnged i’w thîm ymgyrchu “gwych”.