Mae’r lluoedd arfog wedi’u galw i nifer o ardaloedd yn Lloegr yn sgil llifogydd sydd wedi cael eu hachosi gan Storm Dennis.

Mae un o longau’r Llynges yn chwilio am ddyn sydd wedi bod ar goll yn y môr yn Swydd Caint ers oriau man bore heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 15), yn dilyn adroddiadau ei fod e wedi mynd ar goll yn ardal Margate.

Mae badau achub, cwch yr heddlu a hofrennydd Gwylwyr y Glannau’n chwilio amdano fe.

Ac mae milwyr wedi’u galw i ardal Dyffryn Calder yng Ngorllewin Swydd Efrog.

Cafodd yr ardal ei heffeithio’n ddifrifol gan Storm Ciara yr wythnos ddiwethaf.

Mae disgwyl i Storm Dennis achosi glaw trwm y ddwy ochr i’r Pennines, gyda rhybudd y gallai nifer o drefi weld rhagor o lifogydd.