Mae’r Sajid Javid wedi ymddiswyddo fel Canghellor ar ôl ffrae gyda Boris Johnson.
Mae’n ymddangos bod y Prif Weinidog wedi gorchymyn iddo ddiswyddo’i holl uwch-ymgynghorwyr os oedd am aros yn y Trysorlys – a’i fod wedi gwrthod gwneud hynny.
Mae’r anghydfod yn dilyn honiadau ers misoedd am densiynau rhwng Sajid Javid a phrif ymgynghorydd y Prif Weinidog, Dominic Cummings.
Yn ôl ffynhonnell agos at Sajid Javid:
“Roedd y Prif Weinidog wedi dweud fod yn rhaid iddo sacio’i holl ymgynghorwyr arbennig a chymryd ymgynghorwyr o Rif 10 i ffurfio un tîm. Fe ddywedodd y Canghellor wrth na fyddai unrhyw weinidog â hunan barch yn derbyn y telerau hynny.”
Cyhoeddodd Boris Johnson yn ddiweddarach ei fod wedi penodi Rishi Sunak yn ganghellor yn ei le. Roedd wedi bod yn Brif Ysgrifennydd i’r Trysorlys ers yr haf.