Mae pump o weinidogion llywodraeth Prydain wedi cael eu diswyddo hyd yma wrth i’r Prif Weinidog Boris Johnson ad-drefnu ei gabinet.

Y cyntaf i gael y sac oedd Julian Smith, Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, ychydig wythnosau ar ôl iddo oruchwylio’r cytundeb a wnaeth arwain at ailsefydlu’r senedd ddatganoledig yn Stormont.

Mae Andrea Leadsom wedi cael ei diswyddo fel Ysgrifennydd Busnes ar ôl gwasanaethu tri phrif weinidog yn y cabinet dros y chwe blynedd ddiwethaf. Hefyd, mae Theresa Villiers wedi colli ei swydd fel yr Ysgrifennydd yr Amgylchedd ac Esther McVey wedi ei diswyddo fel Gweinidog Tai.

Ffigur amlwg arall i gael y sac yw’r Twrnai Cyffredinol, Geoffrey Cox, a ddywedodd ei fod “yn gael y Cabinet ar gais y Prif Weinidog”.

(Rhagor i ddod)