Mae disgwyl i’r Llywodraeth benodi’r rheolydd darlledu Ofcom i reoli diogelwch ar-lein, gan roi iddo’r gallu i ddirwyo cwmnïau cyfryngau cymdeithasol sydd ddim yn gwarchod eu defnyddwyr rhag cynnwys niweidiol.
Dywed yr Ysgrifennydd Diwylliant Nicky Morgan a’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel bod rôl bresennol Ofcom fel rheolydd yn ei wneud yn addas i orfodi rheolau sy’n cadw’r rhyngrwyd yn saff.
Mae hyn yn dilyn papur gwyn gan y Llywodraeth y llynedd ar niwed ar-lein a oedd yn galw am roi dyletswydd gorfodol ar gwmnïau ar-lein i warchod ei defnyddwyr rhag deunydd niweidiol.
Roedd ymgynghoriad i’r papur gwyn yn awgrymu defnyddio rheolydd i osod dirwyon ar wefannau sydd wedi methu gwarchod eu defnyddwyr rhag deynydd niweidiol, fel fideos o drais neu gam-drin plant.
Dywed Nicky Morgan: “Gyda Ofcom wrth y llyw mae gennym ni gyfle gwych i arwain y ffordd wrth adeiladu economi ddigidol sy’n ffynnu.
“Fe fydd yn cael ei harwain gan dechnoleg y gallwn ei ymddiried ynddo i gadw pawb yn y Deyrnas Unedig yn saff ar-lein.”
Ychwanegodd prif weithredwr dros dro Ofcom, Jonathan Oxley: “Rydym yn rhannu uchelgais y Llywodraeth i gadw pawb yn saff ar-lein ac yn croesawu eu bod nhw wedi dewis Ofcom fel y rheolydd diogelwch ar-lein.”