Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn bwriadu bwrw ymlaen â HS2, er gwaethaf pryderon dros ei gyllideb a’r effaith amgylcheddol.

Cafodd y cynllun ei drafod mewn cyfarfod Cabinet fore heddiw (Chwefror 11), cyn iddo wneud cyhoeddiad am y prosiect.

Mae’n debyg y bydd yn caniatáu i’r rheilffordd rhwng Llundain a Birmingham gael ei hadeiladu, cyn asesu’r gost o’i hymestyn ymhellach i Fanceinion a Leeds.

Mae adroddiad a gafodd ei ryddhau i’r cyfryngau yn awgrymu y gallai costau HS2 godi i £106 biliwn.

Ond dywed yr adroddiad y dylai’r cynllun fynd yn ei flaen er mai cyllideb wreiddiol HS2 oedd £32.7 biliwn yn 2011.

Dywed Andy McDonald, llefarydd trafnidiaeth Llafur, fod y Torïaid wedi gwneud “cawlach” o HS2.

Croesawu teithio cyflym

“Dydy’r adolygiad a gafodd ei gynnal gan Douglas Oakervee yn ddiweddar ddim yn gadael unrhyw amheuaeth o blaid rheilffordd cyflymdra uchel,” meddai Boris Johnson.

“Cynnydd sylweddol mewn capasiti gyda channoedd o filoedd o seddi ychwanegol yn ei gwneud yn haws o lawer i deithwyr symud i fyny ac i lawr ein gwlad gul.

“Ac mae hynny’n golygu amserau teithio cynt, nid dim ond mwy o gapasiti.”