Mae ffermwyr ieir yn yr Alban wedi cael eu hannog i gynyddu diogelwch ar ôl i achos o ffliw adar gael ei gadarnhau.
Dywed Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) yn yr Alban bod y firws, sy’n cael ei drosglwyddo gan adar gwyllt, wedi cael ei ddarganfod yn yr Alban wythnos ddiwethaf.
Mae ffermwyr yn cael eu hannog i lanhau a diheintio cerbydau ac offer sydd wedi bod mewn cysylltiad ag ieir yn ogystal ag adeiladu ffensydd er mwyn gwahanu eu hieir rhag adar gwyllt.
Ym mis Rhagfyr, cafodd 27,000 o ieir ar fferm yn Suffolk eu difa ar ôl i nifer ohonynt gael eu darganfod gyda straen H5 o ffliw adar, oedd yn “bathogenaidd isel.”