Mae John Bercow yn honni ei fod e’n destun “cynllwyn” gan y Ceidwadwyr i’w atal rhag cael sedd yn Nhŷ’r Cyffredin.

Llafur, ac nid y Ceidwadwyr, sydd wedi enwebu cyn-Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, yn groes i draddodiad pan fydd Llefarydd yn ymddeol.

Mae’n dweud bod y cynllwyn “yn gwbl amlwg” ar ôl i nifer o Brexitwyr blaenllaw ei gyhuddo o gynnal agenda o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Ac mae Dawn Butler, ymgeisydd yn y ras ar gyfer dirprwy arweinyddiaeth y Blaid Lafur, yn cytuno bod cynllwyn yn ei erbyn, gan honni ei fod e wedi cael ei fwlio.

Mae sawl cwyn yn erbyn John Bercow wedi dod i’r amlwg, ond mae’n gwadu’r honiadau o fwlio.

Brexit

“Y norm yw fod Llefarydd y Tŷ bob amser yn dod yn arglwydd felly y cwestiwn cyntaf i fi yw pam nad yw e wedi cael enwebiad gan y Ceidwadwyr?” meddai Dawn Butler wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

“Hoffwn i wybod y rheswm pam na chafodd e ddod yn arglwydd.

“Rwy’n amau ei fod yn ymwneud â Brexit yn hytrach nag unrhyw beth arall, mewn gwirionedd.

“Y peth arall yw fod rhaid dilyn y broses gywir felly os ydych chi’n cyhuddo rhywun o fwlio, rhaid cynnal proses.”