Daeth cadarnhad bod trydydd person yn dioddef o coronavirus yn y Deyrnas Unedig a chredir eu bod wedi’u heintio gyda’r firws yn Singapore.

Daw’r diagnosis diweddaraf wrth i arbenigwyr iechyd gyhoeddi rhybudd newydd i deithwyr sy’n cyrraedd o nifer o wledydd yn Asia.

Mae’n debyg bod y trydydd claf i gael eu heintio yn ddyn canol oed o wledydd Prydain a chredir mai fo yw’r dinesydd cyntaf o’r Deyrnas Unedig i gael eu heintio gyda’r clefyd.

Yn ôl adroddiadau cafodd y dyn ddiagnosis yn Brighton a’i gludo i Ysbyty St Thomas yn Llundain ddydd Iau (Chwefror 6) lle mae uned arbennig ar gyfer clefydau heintus.

Mae dau berson arall yn dal i gael triniaeth yn y ganolfan afiechydon heintus yn Newcastle.

Mae’r Llywodraeth yn annog teithwyr sy’n dod o wledydd fel Gwlad Thai, Singapore, Japan a De Corea i gadw draw o bobl eraill os ydyn nhw’n dechrau teimlo’n sâl.

Y gwledydd eraill ar y rhestr yw Hong Kong, Taiwan, Malaysia, a Macau, yn ogystal â Tsieina.

Dylai unrhyw un sydd cyrraedd o’r gwledydd yma osgoi cysylltiad gyda phobl eraill os ydyn nhw’n datblygu symptomau fel peswch, twymyn, a thrafferth anadlu.

Yn y cyfamser mae mwy nag 80 o ddinasyddion y Deyrnas Unedig ac aelodau o’u teuluoedd ac sydd wedi bod mewn cwarantin yn Ysbyty Arrow Park yng Nghilgwri wedi clywed y byddan nhw’n cael gadael ddydd Iau nesaf.

Yn Siapan, dywed yr awdurdodau bod 41 o achosion newydd o coronavirus wedi cael eu cadarnhau ar long bleser sydd mewn cwarantin ger Yokohama.

Mae 78 o ddinasyddion o wledydd Prydain, gan gynnwys y criw, ar long y Diamond Princess, yn ôl adroddiadau.

Mae tua 66 o ddinasyddion o wledydd Prydain ar long arall yn Hong Kong, World Dream, ond mae’n debyg nad ydyn nhw mewn cwarantin ac yn cael symud o gwmpas ar y llong.

Mae nifer y meirw o ganlyniad i coronavirus bellach wedi cyrraedd 636 ddydd Gwener (Chwefror 7) gyda nifer yr achosion sydd wedi’u cadarnhau yn codi i 31,161.