Mae ail ran yr ymchwiliad i dân Tŵr Grenfell yn Llundain yn dechrau heddiw (dydd Llun, Ionawr 27), ac fe fydd yn canolbwyntio ar amgylchiadau ac achos y tân.

Fe fydd yn rhoi ystyriaeth i’r cladin fflamadwy ar waliau allanol yr adeilad, sef prif achos y fflamau’n lledu yn ôl rhan gynta’r ymchwiliad.

Bu farw 72 o bobol ac mae lle i gredu bod nam trydanol ar oergell wedi dechrau’r tân dinistriol.

Daw ail ran yr ymchwiliad ddyddiau’n unig ar ôl i Benita Mehra, aelod newydd o’r panel ymchwilio, ymddiswyddo ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod ganddi gysylltiadau â’r cwmni oedd wedi cyflenwi’r cladin.

Derbyniodd Cymdeithas Beirianneg Prydain, yr oedd hi’n llywydd arni, arian gan Arconic, cyflenwr y cladin, ar gyfer cynhadledd y llynedd.

Mae grwpiau ar ran goroeswyr y tân yn dweud bod rhaid i ail ran yr ymchwiliad ganolbwyntio ar bwy oedd ar fai am adnewyddu’r adeilad 25 llawr rhwng 2012 a 2016.

Maen nhw’n cyhuddo’r rheiny o “roi elw a bod yn farus uwchlaw diogelwch”, ac yn galw am ddwyn achos yn eu herbyn.

Fe fydd pensaernïaid Studio E a Rydon, dau gwmni blaenllaw yn y datblygiad, yn cyflwyno datganiadau agoriadol heddiw.

Mae disgwyl i Harley Facades, cyflenwr cladin, roi tystiolaeth hefyd.

Yr ymchwiliad

Fe fydd yr ymchwiliad yn rhoi sylw i’r rhesymau pam fod cladin wedi cael ei roi ar yr adeilad.

Fe fydd yr ail ran yn cael ei rhannu’n saith, ac un elfen yn canolbwyntio ar gwynion trigolion cyn y tân.

Mae disgwyl i’r ymchwiliad bara tan fis Mehefin y flwyddyn nesaf.

Mae 93,000 o ddogfennau wedi cael eu cyflwyno i’r ymchwiliad hyd yn hyn.